Canlyniadau Chwilio - Wycherley, William

William Wycherley

Dramodydd o Loegr oedd William Wycherley (16411 Ionawr 1716) a flodeuai yn ystod Oes yr Adferiad.

Ganwyd yn Clive ger yr Amwythig, yn fab i stiward Marcwis Caerwynt. Aeth i gael ei addysg yn Ffrainc yn 15 oed, ac yno fe drodd yn Gatholig. Dychwelodd i Loegr i astudio'r gyfraith, a chafodd ei dderbyn i Goleg y Frenhines, Rhydychen yn 1660, er na derbyniodd radd. Tua'r cyfnod hwn fe drodd yn ôl at Brotestaniaeth. Mae'n bosib iddo deithio i Sbaen yn ddiplomydd yn y 1660au, ac mae'n debyg iddo frwydro yn yr ail ryfel ar y môr rhwng Lloegr a Gweriniaeth yr Iseldiroedd yn 1665. Cafodd ei garcharu am saith mlynedd oherwydd ei ddyled, a throdd yn ôl at yr Eglwys Gatholig yn ystod teyrnasiad y Brenin Iago II.

Ymhlith ei ddramâu mae ''Love in a Wood; or, St. James’s Park'' (1671), ''The Gentleman Dancing-Master'' (1672), ''The Plain-Dealer'' (1676), a ''The Country-Wife'' (1677). Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2

    Restoration Comedy : Full Text and Introduction (NHB Drama Classics). gan Behn, Aphra

    Cyhoeddwyd 2020
    Awduron Eraill: “...Wycherley, William...”
    Excerpt
    Image
    EBSCOhost
    OverDrive
    ProQuest Ebook Central
    VLeBooks
    eLyfr