Canlyniadau Chwilio - Vermeer, Johannes, 1632-1675
Johannes Vermeer
Arlunydd o'r Iseldiroedd oedd Johannes Vermeer neu Jan Vermeer (31 Hydref 1632 (bedyddiwyd) – 15 Rhagfyr 1675 (claddwyd)), a baentiodd yn yr arddull Baróc. Roedd yn arbenigo mewn golygfeydd o ddydd i ddydd o fewn y cartref. Treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn Delft. Yn ystod ei fywyd, roedd Vermeer yn beintiwr weddol llwyddiannus o fewn ei dalaith. Nid oedd erioed yn arbennig o gyfoethog, efallai gan na chynhyrchodd nifer fawr o baentiadau. Gadawodd ei wraig a'i un ar ddeg o blant mewn dyled pan fu farw.Bu bron iddo gael ei anghofio am ddau gan mlynedd hyd i feirniad celf, Thoré Bürger, gyhoeddi traethawd yn 1866, yn priodoli 66 iddo (dim ond 35 o baentiadau sydd wedi eu priodoli i Vermeer yn gadarn). Ers hynny, mae enw Vermeer wedi dod i'r amlwg, a cydnabyddir ef fel un o beintwyr gorau'r Oes Aur Iseldiraidd. Mae'n enwog yn arbennig am ei driniaeth meistrolgar o olau yn ei waith. Darparwyd gan Wikipedia