Canlyniadau Chwilio - Swayze, Patrick
Patrick Swayze
Actor, cerddor a dawnsiwr o'r Unol Daleithiau oedd Patrick Wayne Swayze (18 Awst 1952 – 14 Medi 2009). Fe gafodd ei eni yn Houston, Texas a phriododd Lisa Nemi ym 1975. Fe'r oedd yn enwog yn bennaf am chwarae'r brif ran rhamantaidd mewn ffilmiau megis ''Dirty Dancing'' (1987) a ''Ghost'' (1990). Fe dderbyniodd enwebiad am Wobr Golden Globe am ei ran yn "Ghost," ynghyd â'i berfformiadau yn ''Red Dawn'' (1984), ''Road House'' (1989), a ''Point Break'' (1991). Ym 1991, fe gafodd ei restru yng nghylchgrawn "People" fel Y Dyn Mwyaf Rhywiol.Ym mis Ionawr 2008, fe gafodd ef ddiagnosis am gancr y pancreas, cyfnod 4, ac mae ef wedi bod yn brwydro'r afiechyd yn gyhoeddus. Fe ddywedodd ef wrth Barbara Walters ym mis Ionawr 2009 ei fod yn "trechu'r clefyd". Fodd bynnag, bu farw o'r afiechyd wyth mis yn ddiweddarach. Ei rôl actio olaf oedd y prif ran mewn cyfres ddrama deledu, "The Beast" a leolir mewn ysbyty, a ddechreuodd ddarlledu ar y 15fed o Ionawr, 2009. Serch hynny, am fod iechyd Swayze wedi parhau i ddirywio, nid oedd ef yn medru hyrwyddo'r gyfres ac ar y 15 Mehefin, 2009 cyhoeddodd ''Entertainment Tonight'' fod y y gyfres wedi cael ei dileu. Darparwyd gan Wikipedia