Canlyniadau Chwilio - Soul, David
David Soul
| dateformat = dmy}}Roedd David Soul (ganwyd David Richard Solberg ; 28 Awst 1943 – 4 Ionawr 2024) yn ganwr ac actor o'r Unol Daleithiau. Roedd yn fwyaf adnabyddus am bortreadu’r Ditectif Kenneth “Hutch” Hutchinson yn y gyfres deledu Americanaidd ''Starsky & Hutch'' o 1975 i 1979.
Roedd ei rolau nodedig eraill yn cynnwys Joshua yn y gyfres ''Here Come the Brides'' o 1968 i 1970 a'r prif ran yn y ffilm deledu 1979 ''Salem's Lot''. Rôl ffilm nodedig arall oedd John Davis yn y ffilm ''Magnum Force'' (1973) gyda Clint Eastwood.
Cafodd lwyddiant hefyd fel canwr, gan gael sengl rhif un ar yr UD Billboard Hot 100 gyda "Don't Give Up on Us". Cyrhaeddodd y sengl rhif un yn y DU a Chanada hefyd. Cafodd Soul sengl rhif un ychwanegol ar Siart Senglau'r DU gyda "Silver Lady" (1977). Yn y 1990au symudodd ef i'r Deyrnas Unedig a chael llwyddiant o'r newydd ar lwyfan y West End. Gwnaeth ymddangosiadau cameo hefyd mewn sioeau teledu Prydeinig, gan gynnwys ''Little Britain'', ''Holby City'' a ''Lewis''.
Cafodd Soul ei eni yn Chicago, Illinois, Unol Daleithiau America, ac roedd o dras Norwyaidd. Roedd ei fam, June Joanne (Nelson), yn athrawes ac roedd ei dad, Dr. Richard W. Solberg, yn weinidog Lutheraidd ac yn ysgolhaig. Yr oedd dau daid Soul yn efengylwyr. Symudodd y teulu yn aml yn ystod ieuenctid Soul a daeth yn rhugl yn Almaeneg a Sbaeneg. Aeth ei frawd Daniel yn weinidog Lutheraidd.
Priododd bum gwaith. Priododd ei bedwerydd gwraig, yr actores Julia Nickson ym 1987. Roedd gan y cwpl ferch, China Soul, sy'n gantores/cyfansoddwr caneuon. Priododd ei bumed gwraig, Helen Snell yn 2010 a symudodd i fyw yn Llundain. Darparwyd gan Wikipedia