Canlyniadau Chwilio - Roose-Evans, James 1927-
James Roose-Evans
| dateformat = dmy}} Roedd James Roose-Evans (11 Tachwedd 1927 - 26 Hydref 2022) yn gyfarwyddwr theatr ac awdur. Ym 1959 sefydlodd y Clwb Theatr Hampstead yn Llundain. Sefydlodd y Canolfan Bleddfa ar gyfer yr Ysbryd Creadigol, yng nghanolbarth Cymru, ym 1974.Cafodd Roose-Evans ei geni yn Llundain, yn ail fab i Jack a Primrose Roose-Evans. Gwerthwr teithiol oedd ei dad. Mynychodd Ysgol Ramadeg Crypt, Caerloyw, cyn treulio deunaw mis yn y fyddin yn yr Eidal. Derbyniwyd ef i St Benet's Hall, Rhydychen, lle darllenodd Saesneg. Yn ystod y gwyliau, ac ar ôl graddio o'r brifysgol, bu'n gweithio fel actor. Trosodd yn ddiweddarach i Gatholigiaeth Rufeinig.
Sefydlodd Roose-Evans Glwb Theatr Hampstead yn Neuadd Moreland, yn Holly Bush Vale, Llundain, ym 1959. Agorodd y tymor cyntaf gyda ''Siwan'', drama gan Saunders Lewis, wedi ei chyfieithu gan Emyr Humphreys, gyda Siân Phillips fel y Dywysoges Siwan. Cyfarwyddodd drama ''84 Charing Cross Road'', a addasodd ei hun, yn y West End. Darparwyd gan Wikipedia