Canlyniadau Chwilio - Parton, Dolly
Dolly Parton
Cantores, cyfansoddwraig, aml-offerynydd, cynhyrchydd recordiau, actores, awdur, dynes fusnes a dyngarwraig o'r Unol Daleithiau yw Dolly Rebecca Parton Dean (ganed 19 Ionawr 1946), sy’n adnabyddus am ei gwaith ym maes canu gwlad. Ar ôl llwyddiant yn cyfansoddi ar gyfer artistiaid eraill, rhyddhaodd Dolly Parton ei halbwm cyntaf ei hun ''Hello, I'm Dolly'' ym 1967.Rhai o'i chaneuon mwyaf nodedig yw "9 To 5", "Jolene", "Coat of Many Colors" ac "I Will Always Love You".
Roedd ei mam, Avie Lee Owens, o dras Gymreig. Yn 2007 perfformiodd Parton yng Nghaerdydd ac aeth ei chefnder Ritchie Owens i ymchwilio hanes y teulu. Daeth adre a darn o garreg sydd erbyn hyn yn eistedd ar ei silff ben tân. Darparwyd gan Wikipedia