Canlyniadau Chwilio - Lady Gaga
Lady Gaga
}}Mae Stefani Joanne Angelina Germanotta (ganed 28 Mawrth 1986), sy'n fwy adnabyddus o dan ei henw llwyfan Lady Gaga, yn gantores a chyfansoddwriag o'r Unol Daleithiau. Dechreuodd ei gyrfa yn ysgrifennu caneuon i rai ser mwyaf byd pop, gan gynnwys Fergie, Pussycat Dolls, Britney Spears a'r New Kids on the Block, yn ogystal â'r canwr a'r cynhyrchydd Americanaidd, Akon. Pan sylwodd Akon fod Gaga ei hun yn medru canu, rhoddodd gytundeb iddi ar ei label recordio ei hun, Kon Love Distribution, a dechreuodd weithio gyda hi ar ei halbwm gyntaf.
Rhyddhaodd Gaga "The Fame" yn 2008, a oedd yn sôn am sut y gall unrhyw un deimlo'n enwog. Hyd yn hyd, mae'r albwm wedi arwain at y senglau rhif un "Just Dance" (a gafodd ei enwebu am y Recordiad Dawns Gorau yn 51fed Gwobrau'r Grammy) a "Poker Face". Mae rocwyr glam fel David Bowie a Queen wedi dylanwadu arni, yn ogystal â chantorion pop o'r 1980au fel Madonna a Michael Jackson. Darparwyd gan Wikipedia