Canlyniadau Chwilio - Jones, Quincy
Quincy Jones
Arweinydd corau, cynhyrchydd recordiau, trefnwr sgôrau cerddorol, cyfansoddwr ffilmiau a thrympedwr oedd o'r Unol Daleithiau oedd Quincy Delight Jones, Jr. (14 Mawrth 1933 – 3 Tachwedd 2024). Yn ystod ei bum degawd yn y diwydiant adloniant, cafodd ei enwebu am 80 Gwobr Grammy, gan ennill 28 ohonynt gan gynnwys Gwobr ''Grammy Legend'' ym 1992.Roedd yn fwyaf adnabyddus fel cynhyrchydd yr albwm ''Thriller'', gan yr eicon pop Michael Jackson, albwm a werthodd dros 104 miliwn o gopïau yn fyd-eang, ac fel cynhyrchydd ac arweinydd y gân elusennol “We Are the World”. Mae ef hefyd yn adnabyddus am ei gân boblogaidd ''"Soul Bossa Nova"'' (1962), a ddechreuodd ar yr albwm ''Big Band Bossa Nova''.
Roedd ei fam-gu ar ochr ei fam yn gyn-gaethwas o Louisville, ac yn ddiweddarach darganfu bod ei ddad-cu yn berchennog caethweision o Gymru.
Bu farw yn 91 mlwydd oed yn ei gartref yn Bel Air, Los Angeles. Darparwyd gan Wikipedia