Canlyniadau Chwilio - Hiddleston, Tom

Tom Hiddleston

Mae Thomas William Hiddleston (ganed 9 Chwefror 1981) yn actor Seisnig. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Loki yn y Bydysawd Sinematig Marvel, ac ymddangosodd yn ''Thor'' (2011), ''The Avengers'' (2012), a ''Thor: The Dark World'' (2013). Mae hefyd wedi ymddangos yn ''War Horse'' (2011) Steven Spielberg, ''The Deep Blue Sea'' (2011), comedi rhamantaidd Woody Allen ''Midnight in Paris'' (2011), y gyfres 2012 BBC ''Henry IV'', ''Henry V'', a'r ffilm fampirod rhamantaidd ''Only Lovers Left Alive'' (2013). Ar y llwyfan, y mae wedi ymddangos yng nghynhyrchiadau ''Cymbeline'' (2007) ac ''Ivanov'' (2008). Ym mis Rhagfyr 2013 serennodd fel y cymeriad teitl yng nghynhyrchiad y Donmar Warehouse ''Coriolanus'' a redodd tan mis Chwefror 2014. Serennodd yn y ffilm ''High-Rise'' (2015) fel Dr. Robert Laing, cyn ymddangos yn 2016 fel Jonathan Pine ym mini-gyres y BBC, ''The Night Manager''.

Enillodd y Wobr Laurence Olivier ar gyfer yr Actor Newydd Gorau mewn Drama ar gyfer ei rôl yn ''Cymbeline'', ac enwebwyd Hiddleston ar gyfer yr un wobr yn yr un flwyddyn ar gyfer ei rôl fel Cassio yn ''Othello''. Yn 2011, enillodd y Wobr Empire ar gyfer yr Actor Newydd Gwrywaidd Gorau a fe'i enwebwyd ar gyfer y Wobr BAFTA ar gyfer Seren Newydd ar gyfer ei rôl yn ''Thor''. Enillodd y Wobr Ffilm MTV ar gyfer y Frwydr Orau a'r Dihyryn Gorau yn 2013 ar gyfer ei rôl yn ''The Avengers''. Ar gyfer ei rôl yn y ddrama 2013 ''Coriolanus'', enillodd Wobr Theatr yr Evening Standard ar gyfer yr Actor Gorau. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    The night manager : [the complete series] /

    Cyhoeddwyd 2016
    Awduron Eraill: “...Hiddleston, Tom...”
    Fideo