Canlyniadau Chwilio - Colman, Olivia

Olivia Colman

Mae Olivia Colman (ganed Sarah Caroline Olivia Colman; 30 Ionawr 1974), yn actores Seisnig a ddaeth i amlygrwydd pan chwaraeodd rôl Sophie Chapman yn y gyfres gomedi Channel 4 ''Peep Show'' (2003–15). Mae hefyd wedi actio mewn cyfresi comedi eraill yn cynnwys ''Green Wing'' (2004–06), ''Beautiful People'' (2008–09), ''Rev.'' (2010–14) a ''Twenty Twelve'' (2011–12) ac amrywiaeth o rolau yn ''That Mitchell and Webb Look'' (2006–08), ar bwys ei chyd-sêr ''Peep Show'' David Mitchell a Robert Webb.

Yn fwy diweddar, ymddangosodd mewn nifer o gyfresi a ffilmiau drama. Fe'i chanmolwyd yn ei rôl yn y ffilm 2011 ''Tyrannosaur,'' a chwaraeodd Carol Thatcher yn ''The Iron Lady'' (2011), Y Frenhines Elizabeth, Mam y Frenhines yn ''Hyde Park on Hudson'' (2012), a ''Locke'' (2013). Mae wedi ennill tair Gwobr Deldu BAFTA, un ar gyfer y 'Perfformiad Comedi Gorau' gan fenyw ar gyfer ''Twenty Twelve'' ac un ar gyfer yr 'Actores Gefnogol Orau' yn ''Accused'' yn 2013. Aeth yn ei blaen i ennill 'Gwobr yr Actores Orau' yn 2014 yn ei rôl fel D S Ellie Miller yn y gyfres dditectif ITV ''Broadchurch''.

Yn 2016, chwaraeodd Angela Burr ym mini-gyfres y BBC, ''The Night Manager''. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    The night manager : [the complete series] /

    Cyhoeddwyd 2016
    Awduron Eraill: “...Colman, Olivia...”
    Fideo